Recent News
-
Dewch i ymuno â ni!
30 Jul 2010
Gŵyl Archaeoleg Project Eliseg – dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2010 Cynhelir Gŵyl Archaeoleg o 11am [...]
-
Y Cloddio Mawr yn Dechrau!
29 Jul 2010
Colofn Eliseg, Glyn y Groes ger Llangollen (Sir Ddinbych), dydd Llun 19 Gorffennaf hyd ddydd [...]
-
Dewch i ymuno â ni!
Cartref
Croeso i wefan Project Eliseg. Project ymchwil archaeolegol cydweithredol yw Project Eliseg sy’n ymchwilio i un o henebion mwyaf rhyfeddol Prydain o’r oesoedd canol cynnar: Colofn Eliseg, ger Llangollen, yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Rhan o baladr croes crwn yw Colofn Eliseg, wedi ei osod o fewn ei sylfaen wreiddiol. Mae pen y groes ar goll hefyd erbyn hyn. Bu unwaith arysgrif Ladin hir i’w gweld ar y groes, yn dweud iddi gael ei chodi gan Gyngen, brenin teyrnas Powys a fu farw yn 854 O.C. er cof am ei hen daid, Eliseg. Erbyn heddiw mae bron yn amhosib gweld yr arysgrif.
Saif y golofn ar dwmpath na wyddys ei oed na’i swyddogaeth. Mae mewn safle amlwg yn nyffryn cul Nant Eglwyseg, un o isafonydd Afon Dyfrdwy. Saif 400m i’r gogledd/gogledd-orllewin o adfeilion mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes (Valle Crucis) a sefydlwyd yn 1201.
Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg nid oedd y Golofn yn sefyll mwyach ond cofnodwyd yr arysgrif oedd wedi ei difrodi gan yr hynafiaethydd enwog o Gymru Edward Lhuyd (1660-1709). Cloddiwyd y twmpath yn 1773 gan y tirfeddiannwr lleol Thomas Lloyd ac yn ôl y sôn daethpwyd o hyd i gist garreg yn cynnwys ysgerbwd. Ailgodwyd y Golofn hefyd. Ond nid yw’r safle erioed wedi bod yn destun ymchwiliad archaeolegol modern.
Read All…